Caiff celf a arddangosir mewn amgylcheddau clinigol effaith gadarnhaol ar bobl.

Mae’n creu awyrgylch mwy cyfforddus a llai brawychus ac mae’n cynorthwyo i leihau straen a phryder i gleifion, staff ac ymwelwyr.

Rydym yn elusen genedlaethol sy’n defnyddio celf weledol i greu amgylcheddau sy’n gwella iechyd a lles.

Mae eich gwaith nid yn unig yn helpu’r sâl i wella, mae hefyd yn helpu’r iach i aros yn iach.

Swyddog Heddlu, Ymddiriedolaeth GIG Ysbyty Cyffredinol Dosbarth Glan Clwyd

Ers 1959 rydym wedi casglu’r dalent artistig orau, yn amrywio o artistiaid adnabyddus i raddedigion diweddar. Erbyn hyn mae ein casgliad yn cynnwys dros 4,000 o weithiau celf ysgogol, heriol ac o ansawdd uchel.

Mae gennym nifer o ganolfannau rhanbarthol. Ysbyty Llandochau yw’r ganolfan ranbarthol ar gyfer De Cymru ac mae’n arddangos gweithiau celf sydd ar gael i’w benthyg i sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghaerdydd a’r cyffiniau.

Rydym yn dibynnu ar grantiau a chyfraniadau ac rydym yn ddiolchgar i’n cefnogwyr am eu haelioni er mwyn gwneud ein gwaith yn bosibl.

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth...